Senedd Cymru 
 Y Swyddfa Gyflwyno
  
 Adroddiad Blynyddol y Grŵp Trawsbleidiol
 
  

 

 

 

 


Manylion y Grŵp Trawsbleidiol

Teitl y grŵp trawsbleidiol:

Adeiladu

Aelodaeth y Grŵp a deiliaid swyddi

Enw Cadeirydd y Grŵp:

Joyce Watson AS

Enwau Aelodau eraill o’r Senedd:

David Rees AS

Mike Hedges AS  

Mark Isherwood AS

Delyth Jewell AS

Enw'r Ysgrifennydd a’r Sefydliad:

Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB) (Mark Bodger – CITB / Matt Kennedy – CITB)

Enwau'r aelodau allanol eraill a'r sefydliadau y maent yn eu cynrychioli:

Bryony Haynes (BH) Cartrefi Cymunedol Cymru

Catherine Williams (CW) Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru (CEW)

David Kirkby (DK) Sefydliad Siartredig Adeiladu (CIOB)

Ed Evans (EE) Cymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil (CECA)

Andrew Eldred (AE) Cymdeithas Contractwyr Trydanol (ECA)

Jill Fairweather (JF) Cadw

Gareth W Evans (GE) Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC)

Gareth Williams (GW) CITB

Christopher Hare (CH) Llywodraeth Cymru

David Humphrey (DH) Morgan Sindall

Ifan Glyn (IG) Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr (FMB)

Julia Stevens (JS) CITB

Keith Jones (KJ) Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE)

Ken Pearson (KP) Bluestone Builders

Mark Bodger (MB) CITB

Owain Jones (OJ) TRJ

Rob Davies (RD) CITB

Roisin Willmott (RW) Y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru (RTPI)

Matt Kennedy (MK) CITB

Cyfarfodydd eraill y Grŵp ers y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol diwethaf

Cyfarfod 1

Dyddiad y cyfarfod:

07.11.22

Yn bresennol:

Joyce Watson AS (JW)

David Rees AS (DR)

Nitesh Patel (NP) Staff cymorth

Bryony Haynes (BH) Cartrefi Cymunedol Cymru

Catherine Williams (CW) Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru (CEW)

David Kirkby (DK) Sefydliad Siartredig Adeiladu (CIOB)

Ed Evans (EE) Cymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil (CECA)

Andrew Eldred (AE) Cymdeithas Contractwyr Trydanol (ECA)

Jill Fairweather (JF) Cadw

Gareth W Evans (GE) Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC)

Gareth Williams (GW) CITB

Christopher Hare (CH) Llywodraeth Cymru

David Humphrey (DH) Morgan Sindall

Ifan Glyn (IG) Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr (FMB)

Julia Stevens (JS) CITB

Keith Jones (KJ) Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE)

Ken Pearson (KP) Bluestone Builders

Mark Bodger (MB) CITB

Owain Jones (OJ) TRJ

Rob Davies (RD) CITB

Roisin Willmott (RW) Y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru (RTPI)

Matt Kennedy (MK) CITB

 

Crynodeb o’r materion a drafodwyd:

Dechreuodd y cyfarfod am 13:33. Agorodd JW y cyfarfod drwy groesawu'r aelodau. Soniodd JW am y pwysau economaidd sy’n wynebu pobl, boed hynny gartref a thramor, a nododd pa mor berthnasol oedd pwnc y cyfarfod hwn o gofio’r pwysau sy'n wynebu'r diwydiant adeiladu hefyd.

Atgoffodd JW bawb a oedd yn bresennol i ddilyn y protocol arferol ar gyfer gofyn cwestiynau a gwneud sylwadau yn ystod cyfarfod rhithwir, gan ychwanegu y byddai trawsgrifiad o'r cyfarfod yn cael ei gadw i sicrhau cywirdeb.

Atgoffodd JW bawb y byddai’n rhaid cynnal Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar ddechrau’r cyfarfod a gwahoddodd aelodau’r grŵp i gynnig enwebiadau i gyflawni rolau'r cadeirydd a'r ysgrifenyddiaeth. Cynigiodd DR JW fel cadeirydd, ac fe eiliwyd y cynnig gan DH. Cynigiodd JW y dylai CITB barhau yn rôl ysgrifenyddiaeth y grŵp, ac fe eiliwyd y cynnig gan DR. Ni chafwyd unrhyw wrthwynebiad i'r penodiadau hyn.

Yn dilyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, gofynnodd JW i MK siarad am yr eitem gyntaf ar yr agenda, sef amlinellu rhai o'r prif heriau economaidd sy'n wynebu'r diwydiant.

Gyda llawer o aelwydydd yn wynebu cynnydd sylweddol yn eu costau byw, a phwysau domestig a byd-eang ehangach ar yr economi yn achosi heriau i dwf economaidd, nododd MK fod llawer o sylwebwyr/dadansoddwyr yn awgrymu bod dirwasgiad i’r Deyrnas Unedig ar y gorwel eleni neu’r flwyddyn nesaf.

Awgrymodd MK y gallai hyn gynyddu'r pwysau presennol, gydag awgrymiadau y gallai chwyddiant godi mor uchel â 17 y cant yn ystod hanner cyntaf 2023 heb ymyrraeth sylweddol gan y Llywodraeth. Tynnodd MK sylw at ddadansoddiad gan PwC yn awgrymu y gallai hyn gyd-fynd â thwf araf, gyda chynnyrch domestig gros yn cynyddu tua 3 y cant eleni cyn dwy flynedd o dwf araf neu, o bosibl, twf negyddol.

Nododd MK fod y data diweddaraf ar gyflogaeth yng Nghymru yn creu darlun heriol, gyda 45,000 yn llai o bobl yn gweithio yng Nghymru nag ar yr un adeg y llynedd, er bod 13,000 yn llai o bobl yn ddi-waith. Roedd nifer y bobl yng Nghymru nad oeddent ar gael i weithio 38,000 yn uwch nag yn ystod y tri mis hyd at fis Mai a 52,000 yn uwch na'r flwyddyn flaenorol. Mae'r rhesymau pam nad yw pobl ar gael i weithio yn cynnwys salwch, cyfrifoldebau gofalu neu astudiaethau amser llawn. Mae’r gyfran yng Nghymru sydd â salwch hirdymor wedi cynyddu i draean o’r grŵp economaidd anweithgar hwn, sef y gyfran uchaf ers dros 16 mlynedd. Mae hynny'n cyfateb i 147,000 o bobl.

Soniodd MK am gyfarfod grŵp Fforwm Diwydiant Adeiladu Cymru lle nodwyd y gwahanol ffyrdd y mae’r pwysau hyn yn dod i’r amlwg yn ymarferol, gan gynnwys y pwyntiau a ganlyn:

Mae chwyddiant mewn costau yn amlwg yn achosi heriau sylweddol;

Dywedodd rhai a oedd yn gysylltiedig â chaffael fod denu contractwyr at fframweithiau yn heriol yn ystod cyfnod cynyddol ansefydlog o ran costau;

Yn gysylltiedig â hyn, gallai contractwyr fod yn ysgwyddo risgiau anghymesur, o gofio bod y rhai sy’n tendro am waith yn gorfod cadw at dargedau cyllidebol llym;

Mae prinder sgiliau mewn nifer o grefftau allweddol yn arwain at chwyddiant cyflog ac yn achosi oedi ymarferol i waith ar hyn o bryd;

Roedd yna deimlad hefyd y gallai'r heriau hyn, os ydynt yn parhau yn y tymor hwy, fod yn rhwystr sylweddol rhag cynnydd tuag at gyrraedd targedau sero net.

Wrth fyfyrio ar y data diweddaraf gan draciwr gweithgarwch CITB (sy’n olrhain gweithgarwch busnes a phrinder staff) dywedodd MK fod y prif negeseuon yn cynnwys y pwyntiau a ganlyn:

Mae'r diwydiant yn gweithio hyd eithaf ei allu er bod maint y llwyth gwaith a'r galw am sgiliau yn dechrau cymedroli;

Mae nifer o alwedigaethau allweddol yn parhau i fod yn brin o staff, gan gynnwys bricwyr, seiri dodrefn, peintwyr ac addurnwyr, seiri coed, trydanwyr, plastrwyr a rendrwyr, plymwyr a syrfëwyr meintiau;

Yr her fwyaf sy'n wynebu busnesau o hyd yw’r cynnydd mewn costau deunyddiau;

Mae'r costau hyn yn arwain rhai i godi prisiau neu drosglwyddo'r cynnydd i ddefnyddwyr, sy'n effeithio ar faint yr elw y gallant ei gwneud;

Mae bron i bedwar o bob deg (37 y cant) busnes wedi dweud bod y galw wedi gostwng mewn meysydd penodol o'u busnes, gyda'r galw am waith mewn lleoliadau preswyl ac ar brosiectau adnewyddu eiddo wedi gostwng fwyaf yn ystod y chwe mis diwethaf;

O ran darparu hyfforddiant:

o Mae chwarter y busnesau (25 y cant) yn dweud bod costau cynyddol deunyddiau yn eu hatal rhag buddsoddi’n ddigonol mewn hyfforddiant;

o Ar yr un pryd, mae tri o bob deg (29 y cant) yn adrodd bod y prinder staff medrus presennol yn atal buddsoddiad mewn hyfforddiant;

o Mae chwarter (25 y cant) yn adrodd nad oes ganddynt lif gwaith dibynadwy, sy'n dal buddsoddiad yn ei ôl;

o Mae cyfran debyg (24 y cant) yn dweud bod diffyg galw gan gwsmeriaid yn gyfyngiad;

o Hefyd, mae 19 y cant yn dweud bod staff yn rhy brysur i allu cynnig hyfforddiant.

• Mae ein dadansoddiad yn awgrymu bod lefelau’r arian ac amser a fuddsoddir mewn hyfforddiant yn debygol o barhau i ostwng, o leiaf yn y tymor byr, wrth i chwyddiant barhau i gael effaith ac wrth i gwmnïau wynebu heriau recriwtio, sy’n golygu nad oes ganddynt lawer o gapasiti i fuddsoddi a bod staff yn rhy brysur yn gweithio ar dasgau eraill neu'n ceisio ennill gwaith mewn amgylchedd cynyddol gystadleuol i gymryd amser i ffwrdd o’u rolau i gynnig hyfforddiant i staff eraill;

• Soniodd ymatebwyr i’r arolwg fod ailddechrau gwaith ar brosiectau a oedd eisoes wedi’u hoedi wedi hybu gweithgarwch, ond bod archebion newydd yn parhau’n gymharol brin ym mis Medi;

• Gan adlewyrchu llawer o'r materion a godwyd yng nghyfarfod Grŵp Rhanddeiliaid Diwydiant Fforwm Adeiladu Cymru, cyfeiriodd rhai cwmnïau at benderfyniadau araf gan gleientiaid a mwy o amharodrwydd i ysgwyddo risg oherwydd pryderon ynghylch chwyddiant, pwysau ar gyllidebau a phryderon am y rhagolygon economaidd.

Diolchodd JW i MK am gyflwyno’r papur briffio. Er bod yr heriau a amlygwyd yn ymddangos yn anodd eu goresgyn, ychwanegodd y gallai’r grŵp trawsbleidiol, o gofio’r  arbenigedd sydd yn yr ystafell, helpu i ddod o hyd i ddatrysiadau posibl. Gwahoddodd JW MB i siarad am rai o'r datrysiadau a nodwyd ar yr agenda.

Dywedodd MB y bydd bob amser angen sgiliau arnom i ddisodli’r rhai sydd yno ar hyn o bryd neu i ddatblygu’r rhai y bydd eu hangen arnom yn y dyfodol, gan dynnu sylw at y dirwedd sydd gennym yng Nghymru o ran y partneriaethau sgiliu rhanbarthol, sy’n ein helpu i nodi pa sgiliau y dylai fod eu hangen ym mhob un o’r rhanbarthau perthnasol. Mae gennym rwydwaith o golegau addysg bellach sy'n helpu i feithrin sgiliau amrywiol. Mae gan rai o’r colegau hyn restrau aros, nid oes gan rai y capasiti i ehangu’r ddarpariaeth ac mae rhai ohonynt yn darparu hyfforddiant mewn crefftau penodol yn unig.

Tynnodd MB sylw at y ffaith bod y ddarpariaeth o ran addysg uwch a hyfforddiant proffesiynol wedi'i gwasgaru ledled Cymru mewn gwahanol ffyrdd ac mewn gwahanol drefniadau, a dywedodd fod y dirwedd hon yn ddryslyd i gyflogwyr.

Dywedodd MB fod yr heriau’n parhau o ran sut i sicrhau ein bod yn mapio’r dirwedd sgiliau a’n bod yn darparu’r sgiliau sydd eu hangen arnom ar gyfer twf yn y dyfodol i gymryd lle gweithlu sy’n heneiddio. Hefyd, mae’n rhaid sicrhau bod gennym weithlu mwy amrywiol a’n bod yn gwneud y diwydiant yn fwy hygyrch i bobl yng Nghymru i helpu i wrthweithio rhai o’r ffactorau a nodwyd gan MK yn ystod yr eitem gyntaf.

Aeth MB ymlaen i sôn am effaith a photensial y model prentisiaethau ar y cyd, a nododd fod y ddau gynllun yng Nghymru—un yn y Gorllewin a’r llall yn y De-ddwyrain—yn llwyddiannus. Fodd bynnag, nid oes darpariaeth o’r fath ar gael yng Ngogledd Cymru. Nododd MB fod y model wedi chwarae rhan bwysig yn ystod y dirwasgiad diwethaf ac y gellid ei bwysleisio unwaith eto i gefnogi cyflogwyr a allai fod â llwyth gwaith sy’n ysgafnhau o'u blaenau.

Aeth MB ymlaen i drafod sgiliau sero net, gan fyfyrio ar rôl y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio wrth brofi dulliau gweithredu newydd. Dywedodd ei bod yn debygol y bydd llawer mwy o weithgarwch mewn meysydd fel aerglosrwydd ac inswleiddio o safbwynt adeiladau, ond hefyd o safbwynt gwasanaethau adeiladu. Hefyd, mae’n debygol y bydd llawer mwy o weithgarwch ym meysydd pympiau gwres, solar ffotofoltaig a batris.

Yn olaf, gan droi at werth cymdeithasol, nododd MB fod llawer o'r gwaith cofnodi/adrodd wedi dod yn ddiwydiant ynddo'i hun. Awgrymodd fod angen symleiddio’r gwaith hwn a'i drafod yng nghyd-destun y pwysau eraill sy'n wynebu’r diwydiant fel y gall cwmnïau gyflawni'r ymrwymiadau hyn mewn ffordd realistig.

Diolchodd JW i MB am ei gyfraniad a gwahoddodd yr aelodau eraill o’r grŵp i fyfyrio ar y pwyntiau hyn neu drafod unrhyw faterion eraill.

Tynnodd OJ sylw at y ffaith fod lefelau cyllid yn gostwng er gwaethaf y buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn y cynllun prentisiaethau ar y cyd, a dywedodd fod y math hwn o fesur y gellid ei gefnogi ar ddechrau’r tro ar i lawr yn y diwydiant yn gweld cymorth yn cael ei dynnu’n ôl.

Eglurodd AE ei fod yn aelod o’r ECA, sy’n cynrychioli contractwyr trydanol. Roedd AE o’r farn nad oedd y model prentisiaethau ar y cyd wedi gweithio cystal o fewn ei ddiwydiant ef oherwydd faint o amser sydd ei angen ar gyfer lleoliad yn y maes. Ychwanegodd nad yw ei sector ef mor agored i dueddiadau economaidd oherwydd natur y gwaith.

Soniodd AE am yr her o ran sgiliau o fewn gwasanaethau peirianneg, lle mae Cymru ar ei hôl hi o gymharu â gweddill y DU. Yn ôl AE, o’r 159 o unigolion sy’n aros i ddechrau prentisiaeth yn Ne Cymru, mae cyllid ar gael ar gyfer tua hanner ohonynt.

O ran sgiliau sero net, dywedodd AE y byddai llwyddiant mewn hyfforddiant yn dibynnu'n helaeth ar weithlu addysg sydd â wybodaeth gyfoes – ychwanegodd fod hyn yn aml yn her.

Dywedodd KJ fod prentisiaethau ym maes peirianneg sifil yn llwyddo er nad ydynt yn tueddu i fod ar ffurf prentisiaethau ar y cyd, er bod posibilrwydd o gynnig hyn yn Ne-orllewin Cymru.

Dywedodd KP fod y model wedi gweithio'n dda yng Ngorllewin Cymru a nododd fod llawer o'r busnesau cysylltiedig yn fusnesau micro neu’n fusnesau bach. Ychwanegodd KP ei bod yn bwysig ein bod yn ceisio ymgysylltu â disgyblion mewn ysgolion i dynnu sylw at y gyrfaoedd posibl yn y diwydiant.

Tynnodd EE sylw at y ffaith bod llawer o'r materion hyn wedi'u hailadrodd dros y blynyddoedd ond dywedodd fod y ddarpariaeth yn arbennig o dameidiog ar gyfer hyfforddiant gwaith paratoi’r pridd a pheiriannau yng Nghymru ar hyn o bryd. Dywedodd EE y dylid edrych ar y model ariannu o ystyried maint y sector addysg bellach i hyrwyddo’r posibiliadau yn y disgyblaethau hyn.

Dywedodd EE fod angen mwy o gymorth ar gontractwyr i bwysleisio gwerth cymdeithasol a nododd y gallai awdurdodau lleol chwarae mwy o ran wrth gefnogi contractwyr i wneud y cysylltiadau cywir i gyflawni’r ymrwymiadau hyn yn ymarferol.

Soniodd JW am ei phrofiad o ymweld â sesiwn hyfforddiant gwaith paratoi’r pridd yn y gorffennol a dywedodd fod llwyddiant yn y maes hwnnw yn dibynnu ar gael prosiect digon mawr i alluogi dysgwyr i gael profiad mewn sawl maes.

Dywedodd CW fod y llif gwaith arfaethedig yn allweddol bwysig i gyflogwyr wrth iddynt ystyried buddsoddi mewn sgiliau a hyfforddiant. Hefyd, mae’n hanfodol bod pobl ifanc yn cael eu hannog i feddwl am y cywysterau TGAU a Safon Uwch newydd yn yr amgylchedd adeiledig i gynyddu llif sgiliau i mewn i’r sector. Fodd bynnag, mae’n rhaid gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth ymhlith staff mewn ysgolion o’r gyrfaoedd posibl yn y meysydd hyn.

Cytunodd JW fod angen gwneud mwy i ennyn diddordeb pobl ifanc mewn gyrfaoedd yn y diwydiant a chanolbwyntio ar yr hyn y mae athrawon yn ei wybod am y diwydiant hefyd.

Pwysleisiodd JF yr angen i feddwl am hyfforddwyr cymwys i hwyluso’r broses o ddysgu am sero net. Tynnodd JF sylw at y Diploma IBT newydd sy'n cael ei ddatblygu gan NOCN, ond ychwanegodd fod y diffyg staff mewn colegau i gynnig y cwrs hwn yn ymarferol yn her wirioneddol. Awgrymwyd y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu rhaglen hyfforddi'r hyfforddwr ym maes sero net ar gyfer colegau.

Tynnodd GE sylw at y dull gweithredu a ddilynwyd gan Gynghorau Sgiliau'r Alban, gan fyfyrio ar effaith cyllid gan Lywodraeth yr Alban sy’n gosod amodau ynghylch hyfforddiant os defnyddir cyllid y Llywodraeth. Yn fwy cyffredinol, myfyriodd GE ar yr her o gynnig hyfforddiant pan y gallai colegau gwestiynu pam nad yw’r nifer sy'n manteisio ar yr hyfforddiant hwnnw yn uwch. Nododd fod hyn, er enghraifft, yn aml yn golygu egluro nad yw'r diwydiant yn canolbwyntio'n ormodol ar y dyfodol, sy’n golygu y gallai’r diwydiant hefyd ei chael hi’n anodd cynllunio ar gyfer y tymor hwy.

Ymatebodd OJ y byddai’r diwydiant yn fodlon manteisio ar y cyfleoedd hynny. Fodd bynnag, mewn gwirionedd, mae hi’n anodd iawn i gwmnïau ganiatau i bobl gymryd amser oddi ar y safle. Dywedodd OJ y gallai hyfforddiant ar y safle helpu i wrthbwyso hyn ac y gallai cyfuno’r dull hwn â dysgu yn yr ystafell ddosbarth gynyddu’r nifer sy’n manteisio ar y ddarpariaeth.

Cytunodd KP fod hyfforddiant ar y safle yn cynnig llawer o fanteision. Fodd bynag, pwysleisiodd fod yn rhaid cael yr arbenigedd cywir ar y safle ar ffurf mentoriaid. Ychwanegodd KP fod cyfleoedd i bwyso ar weithgynhyrchwyr i gynnig hyfforddiant am ddim i gynyddu gwybodaeth am eu cynnyrch. Dywedodd KP fod colegau, yn anffodus, yn colli tiwtoriaid sy’n dewis gweithio yn y maes oherwydd bod y gwaith hwn yn cynnig cyflog uwch.

Cytunodd JW ac ychwanegodd y byddai'r wybodaeth honno'n hanfodol mewn meysydd fel inswleiddio, lle gall cael y cynnyrch cywir wneud byd o wahaniaeth yn y cartref, yn enwedig yn wyneb cynnydd mewn prisiau ynni pan fo defnyddwyr yn chwilio am ragor o wybodaeth am fesurau a all helpu i gadw gwres.

Dywedodd JF fod effaith ôl-osod yn y ffordd anghywir yn sylweddol. Dywedodd fod diffyg hyder ymhlith cleientiaid yn achosi oedi, gyda phobl yn teimlo’n ansicr ynghylch pa fesurau i'w cymryd a pha gamau fyddai'n cael yr effaith fwyaf.

Ychwanegodd AE fod yn rhaid gwneud mwy o waith i ennyn hyder y diwydiant yn y meysydd hyn, o gofio bod nifer y rhwystrau o ran cael mynediad at y farchnad ar gyfer busnesau a chynhyrchion yn gymharol isel ar hyn o bryd.

Ychwanegodd KP ei bod yn hanfodol gwirio gwaith yn barhaus, ochr yn ochr ag archwilio trwyddedu i gynyddu hyder.

Dywedodd IG fod y gofynion PAS2035 drwy'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio i'w croesawu ond bod yna fater ehangach o ran hyfforddiant sy’n gysylltiedig â chyfathrebu. Dywedodd fod yr argyfwng ynni wedi cynyddu’r galw am ymyriadau i wneud cartrefi’n fwy effeithlon, ond yn aml nid yw aelodau Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr yn gwybod sut i gael mynediad at y ddarpariaeth o ran hyfforddiant. Hefyd, mae mynediad yn gallu dibynnu'n helaeth ar eich lleoliad neu efallai dim ond rhai agweddau ar ôl-osod y mae’r ddarpariaeth sydd ar gael yn eu cwmpasu.

Ychwanegodd IG fod angen strategaeth sgiliau hirdymor arnom i gyd-fynd â'r agenda ôl-osod, gan nodi'r her o fewn y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio lle mae'r ddarpariaeth yn cael ei pheryglu oherwydd diffyg yn y gadwyn gyflenwi.

Ychwanegodd AE mai’r her oedd sicrhau bod y Llywodraeth yn parhau i gynnig cymorth i ateb y galw.

Dywedodd GE fod y darlun o ran addysg bellach ac adeiladu yn eithaf negyddol ar hyn o bryd ac ychwanegodd na fydd yr heriau'n diflannu’n gyflym oherwydd diffyg darlithwyr profiadol ac ymarferwyr sydd â phrofiad o’r diwydiant. Aeth ymlaen i nodi bod yn rhaid gwneud mwy i sicrhau bod y sector addysgu mor ddeniadol â phosibl ac i helpu ymarferwyr i gynyddu eu gwybodaeth yn barhaus.

Dywedodd MB fod llawer o gynlluniau/strategaethau yn eu lle ond ei bod yn anodd esbonio hyn i gyflogwyr er mwyn iddynt allu gwneud synnwyr o’r goblygiadau iddyn nhw o ran y ddarpariaeth, y model ariannu ac ati. Ychwanegodd y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno ei strategaeth sgiliau sero net yn fuan. Fodd bynnag, oherwydd y bwlch mewn gwybodaeth, mae gweithgynhyrchwyr eisoes yn rhannu gwybodaeth ac mae perchnogion tai yn cymryd camau annibynnol hefyd - defnyddiodd ddelwedd y cyw iâr a’r wy.

Dywedodd MB fod yn rhaid cael darparwyr a hyfforddwyr, yn ogystal â dealltwriaeth o ofynion o ran cymhwysedd i wybod ble mae'r bar wedi'i osod. Bydd hyn wedyn yn helpu i arwain y gofynion o ran cymwysterau.

Pwysleisiodd CH fod llawer o waith yn cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru i ddod â phopeth at ei gilydd a mynd i'r afael â rhai o'r materion a amlygwyd yn ystod y cyfarfod. Dywedodd y bydd y cynllun gweithredu yn helpu i sbarduno’r broses hon a thynnodd sylw at rôl y cydgysylltwyr cyllid, y peilot trosglwyddo gwybodaeth a rôl y canolfannau sero net. Hefyd, tynnodd CH sylw at y buddsoddiad o £1.7 miliwn mewn prentisiaethau ar y cyd a bod y ddarpariaeth hon bellach wedi’i ehangu. Fodd bynnag, mae’r gwaith hwn yn cymryd amser oherwydd nid yw un dull yn addas i bawb.

Crynhodd JW y drafodaeth a nododd y bydd yn bwysig cadw ffocws ar sgiliau, gyda’r nod o lunio adroddiad gan y grŵp trawsbleidiol yn ystod y gwanwyn y flwyddyn nesaf – cytunodd y grŵp ar y ffocws hwn.

Diolchodd JW i’r grŵp a daeth â’r cyfarfod i ben.

 

Cyfarfod 2

Dyddiad y cyfarfod:

Cliciwch neu bwyswch yma i ychwanegu testun.

Yn bresennol:

Yn bresennol: Cliciwch neu bwyswch yma i ychwanegu testun.

Crynodeb o’r materion a drafodwyd:

Cliciwch neu bwyswch yma i ychwanegu testun.

Cyfarfod 3

Dyddiad y cyfarfod:

Cliciwch neu bwyswch yma i ychwanegu testun.

Yn bresennol:

Cliciwch neu bwyswch yma i ychwanegu testun.

Crynodeb o’r materion a drafodwyd:

Cliciwch neu bwyswch yma i ychwanegu testun.

Lobïwyr proffesiynol, sefydliadau gwirfoddol ac elusennau y mae’r Grŵp wedi cyfarfod â hwy yn ystod y flwyddyn flaenorol.

[Rhowch enw'r lobïwr/sefydliad/elusennau fel a ganlyn e.e.]

Enw'r sefydliad:

Cliciwch neu bwyswch yma i ychwanegu testun.

Enw’r grŵp:

Cliciwch neu bwyswch yma i ychwanegu testun.


Enw'r sefydliad:

Cliciwch neu bwyswch yma i ychwanegu testun.

Enw’r grŵp:

Cliciwch neu bwyswch yma i ychwanegu testun.


 

Datganiad Ariannol Blynyddol

Teitl y grŵp trawsbleidiol:

Adeiladu

Dyddiad :

05/11/22

Enw’r Cadeirydd:

Joyce Watson AS

Enw'r Ysgrifennydd a’r Sefydliad:

CITB

Teitl

Disgrifiad

Swm

Treuliau’r Grŵp

Dim

£0.00

Costau’r holl nwyddau

Dim nwyddau wedi'u prynu

£0.00

Buddiannau a gafodd y grŵp neu Aelodau unigol gan gyrff allanol

Ni chafwyd unrhyw fuddiannau.

£0.00

Unrhyw gymorth ariannol neu gymorth arall.

Ni chafwyd unrhyw gymorth ariannol.

£0.00

Cyfanswm

£0.00

Gwasanaethau a ddarparwyd i’r Grŵp, megis lletygarwch.

Yr holl letygarwch y talwyd amdano [gan gynnwys enw'r grŵp/sefydliad].

Dyddiad

Disgrifiad o’r darparwr
a’i enw

Costau

Amh.

Amh.

£0.00

 

 

 

Cyfanswm

£0.00